Chief Executive

The Consumer Council for Water

Birmingham – Agile working with regular office presence and national travel required. Gweithio hyblyg gydag angen am bresenoldeb rheolaidd yn y swyddf

  • Location Birmingham – Agile working with regular office presence and national travel required. Gweithio hyblyg gydag angen am bresenoldeb rheolaidd yn y swyddf
  • Sector Regulation & Professional Standards
  • Client The Consumer Council for Water
  • Job Type Permanent
  • Salary/Remuneration £130,000
  • Reference GSe104929
  • Closing Date 12 noon, Monday 6 May 2024

The Consumer Council for Water (CCW) is proud to protect the interests of water consumers in England and in Wales. We are a small organisation, but a high-impact one, and work with governments, water companies and regulators to resolve customer detriment. We are delighted with what we have accomplished so far: since we were established in 2005, we have helped thousands of consumers resolve complaints against their water company or retailer. All our work is informed by extensive research, which we use to champion the interests of consumers and influence water companies, governments and regulators. 2023-24 has been a year of achievements and collaboration in which we have forged strong partnerships to tackle some of the most pressing issues affecting consumers.

CCW is seeking to identify an exceptional individual at an exciting time across the water industry, change is occurring and CCW needs to deliver what tomorrow’s customers require. As a member of the Board and an Accounting Officer, the Chief Executive will spearhead the development of CCW’s business strategy and ensure the efficient and effective delivery of our duties. They will also create a compelling vision of success and promote this to all our stakeholders, leading our efforts to develop CCW as an independent, effective, modern consumer representation body that is fit for the future. A key ambassador for the organisation, the Chief Executive will develop excellent relationships across a broad stakeholder community which includes governments in England and Wales, regulators, industry, academia and the consumer interest and protection sectors.

We are looking for a proven senior leader, an entrepreneurial and innovative individual who can demonstrate a track record devising and delivering strategy for complex organisations. Analytical and intellectually rigorous, you will have designed transformational and structural change, and are confident in securing finance and working with complex funding models. You have the confidence and impact to represent our organisation with stakeholders at the highest levels, ensuring CCW has a respected voice in sector debate. Experience in the water industry would be useful, as would a track record in regulation, utilities and the consumer sector as well as the wider public sector. Applications from those who are already a Chief Executive are welcome, but we also welcome interest from people with the potential to take the next step in their careers.

For a confidential conversation about the role, please contact: Duncan Ewart at duncan.ewart@gatenbysanderson.com

Mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW) yn falch o warchod buddiannau defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Sefydliad bach yw CCW, ond un sylweddol ei ddylanwad, ac rydym yn gweithio gyda llywodraethau, cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr i ddatrys problemau cwsmeriaid. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn: ers i ni gael ein sefydlu yn 2005, rydym wedi helpu miloedd o ddefnyddwyr i ddatrys cwynion yn erbyn eu cwmni dŵr neu fanwerthwr dŵr. Caiff ein holl waith ei lywio gan ymchwil helaeth, ac rydym yn defnyddio’r ymchwil honno i hyrwyddo buddiannau defnyddwyr ac i ddylanwadu ar gwmnïau dŵr, llywodraethau a rheoleiddwyr. Mae 2023-24 wedi bod yn flwyddyn o gyflawniadau a chydweithio ac rydym wedi meithrin partneriaethau cryf i fynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf brys sy’n effeithio ar ddefnyddwyr.

Mae CCW yn dymuno penodi unigolyn eithriadol ar adeg gyffrous ar draws y diwydiant dŵr. Mae newid yn digwydd ac mae angen i CCW gyflawni’r hyn y mae cwsmeriaid y dyfodol ei angen. Fel aelod o’r Bwrdd a Swyddog Cyfrifyddu, bydd y Prif Weithredwr yn arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth fusnes CCW ac yn sicrhau bod ein dyletswyddau’n cael eu cyflawni mewn ffordd effeithlon ac effeithiol. Bydd hefyd yn creu gweledigaeth gref o lwyddiant ac yn hyrwyddo hyn i’n holl randdeiliaid, gan arwain ein hymdrechion i ddatblygu CCW fel corff cynrychioli defnyddwyr annibynnol, effeithiol a modern sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Yn llysgennad allweddol i’r sefydliad, bydd y Prif Weithredwr yn datblygu cydberthnasoedd rhagorol ar draws cymuned eang o randdeiliaid sy’n cynnwys llywodraethau yng Nghymru a Lloegr, rheoleiddwyr, diwydiant, y byd academaidd a’r sectorau buddiannau defnyddwyr ac amddiffyn defnyddwyr.

Rydym yn chwilio am uwch-arweinydd profedig, unigolyn entrepreneuraidd ac arloesol sy’n gallu dangos hanes o lunio a chyflwyno strategaeth ar gyfer sefydliadau cymhleth. Yn unigolyn dadansoddol a deallusol drylwyr, byddwch wedi cynllunio newid trawsnewidiol a strwythurol, ac yn hyderus wrth sicrhau cyllid a gweithio gyda modelau ariannu cymhleth. Mae gennych yr hyder a’r dylanwad i gynrychioli ein sefydliad gyda rhanddeiliaid ar y lefelau uchaf, gan sicrhau bod llais CCW yn uchel ei barch yn nadleuon y sector. Byddai profiad yn y diwydiant dŵr yn ddefnyddiol, yn ogystal â phrofiad ym meysydd rheoleiddio, cyfleustodau a’r sector defnyddwyr yn ogystal â’r sector cyhoeddus ehangach. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd eisoes yn Brif Weithredwyr, ond rydym hefyd yn croesawu diddordeb gan bobl sy’n meddu ar y potensial i ddringo’r gris nesaf yn eu gyrfaoedd.

I gael sgwrs gyfrinachol am y swydd, cysylltwch â: Duncan Ewart yn duncan.ewart@gatenbysanderson.com 

To view the job description and person specification, please scroll to the bottom of the page, tick to agree to the privacy policy, then click 'Continue to full details'.

Continue to full details and apply

Share this job

Related jobs